Event Info
The Importance of being Earnest 12A (PG)
gan Oscar Wilde
Cyfarwyddir gan Max Webster
Dechrau ar amser - dim hysbysebion
Ymunir â Sharon D Clarke, yr enillydd tair Gwobr Olivier, gan Ncuti Gatwa (Doctor Who;
Sex Education) yn yr ail-ddychmygiad llawen hwn o gomedi enwocaf Oscar Wilde. Tra’n chwarae rôl gwarcheidwad parchus yng nghefn gwlad, mae Jack yn mwynhau ei hun yn y dref y tu ôl i hunaniaeth ffug. Yn y cyfamser, mae ei ffrind Algy yn mabwysiadu ffasâd tebyg. Gan obeithio creu argraff ar ddwy foneddiges gymwys, mae’r ddau yn ffeindio eu hunain yng nghanol gwe o gelwyddau a thwyll sy’n achosi pob math o drafferthion.
Max Webster (Life of Pi) sy’n cyfarwyddo’r stori hynod ddoniol hon am hunaniaeth, dynwarediad a rhamant. Wedi'i ffilmio'n fyw o'r Theatr Genedlaethol yn Llundain.