Event Info
30 Mai 2025 - 6pm,
Encôr a recordiwyd 5 Mehefin 2026 1pm
170 munud, 1 egwyl
Ar 30ain Mai, daw tymor Yn Fyw yn HD 2025-26 y Met i ben gyda darllediad byw o opera gyntaf y gyfansoddwraig Americanaidd Gabriela Lena Frank, portread hudol-realistig o’r artistiaid Mecsicanaidd, Frida Kahlo a Diego Rivera, gyda libreto gan y dramodydd Nilo Cruz, ennillydd Gwobr Pulitzer. Wedi’i llunio fel gwrthdroad o’r myth Orpheus ac Euridice, mae’r stori’n portreadu Frida, a genir gan y mezzo-soprano flaenllaw Isabel Leonard, yn gadael yr isfyd ar Ddydd y Meirw ac yn ailuno â Diego, a bortreadir gan y bariton Carlos Álvarez. Mae’r pâr ffraegar enwog yn ail-fyw eu cariad cythryblus am ychydig, gan brofi’r angerdd a’r boen cyn ffarwelio â thir y byw am byth. Y Cyfarwyddwr Cerdd Yannick Nézet-Séguin sy’n arwain llwyfaniad cyntaf y Met o opera Frank, “sgôr hyderus, llawn dychymyg” (The New Yorker) “sy’n byrlymu gyda lliw ac unigoliaeth ffres” (Los Angeles Times). Mae’r cynhyrchiad newydd bywiog hwn, sy’n cymryd ysbrydoliaeth frwd o baentiadau Frida a Diego, yn cael ei gyfarwyddo a’i goreograffu gan Deborah Colker.