Event Info
2 Mai 2026 - 6pm
Encôr a recordiwyd 8 Mai 2026 1pm
245 munud, 2 egwyl
Yn dilyn ei hymddangosiad clodwiw cyntaf efo’r Met yn Madama Butterfly gan Puccini yn 2024, mae’r soprano Asmik Grigorian yn dychwelyd fel Tatiana, yr arwres ifanc swynol yn yr addasiad operatig taer hwn o waith Pushkin, a ddarlledir yn fyw o lwyfan y Met i sinemâu ledled y byd ar 2il o Fai. Mae’r bariton Igor Golovatenko yn ailadrodd ei bortread o’r Onegin hynaws sy’n sylweddoli’n rhy hwyr ei fod yn ei charu. Mae cynhyrchiad atgofus y Met, a gyfarwyddwyd gan Deborah Warner sy’n enillydd Gwobr Tony, “yn cynnig darlleniad hynod fanwl o ... ramant delynegol Tchaikovsky” (Y Telegraph).