Ewch at gynnwys
Event Image
Sad 10 Ion - Gwe 16 Ion
·
Sinema

Event Info

10 Ionawr 2026 - 6pm

Encôr a recordiwyd 16 Ionawr 2026, 1pm

225 munud, 1 egwyl

O ran melodi hyfryd, coloratura swynol, a thân gwyllt lleisiol meistrolgar, mae I Puritani yn opera ddihafal. Ar 10fed Ionawr, mae cynhyrchiad newydd y Met o gampwaith olaf Bellini, y cyntaf ers bron 50 mlynedd - llwyfaniad trawiadol gan Charles Edwards, sy'n gwneud ei ymddangosiad cyntaf fel cyfarwyddwr ar ôl sawl llwyddiant fel dylunydd set - yn cyrraedd sinemâu ledled y byd. Mae'r Met wedi galw ynghyd pedwarawd o sêr o'r radd flaenaf, o dan arweiniad Marco Armiliato, i chwarae’r prif rolau heriol. Y soprano Lisette Oropesa a’r tenor Lawrence Brownlee yw Elvira ac Arturo, a ddenwyd at ei gilydd gan gariad a’u rhwygo’n ddarnau gan ymraniadau gwleidyddol Rhyfel Cartref Lloegr, gyda’r bariton Artur Ruciński fel Riccardo, wedi’i ddyweddïo i Elvira yn erbyn ei hewyllys, a’r bas-bariton Christian Van Horn fel ewythr cefnogol Elvira, Giorgio.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Sadwrn 10 Ionawr, 2026
18:00
Dydd Gwener 16 Ionawr, 2026
13:00