Event Info
Canllaw Oedran: 14+ oed
Rhediad: 45 munud/toriad 20 munud/45 munud
TaithOutside the Light
Yn dilyn llwyddiant eu sioe gyntaf, mae Pedwarawd Will Barnes yn dychwelyd gydag Outside the Light - set newydd bwerus o jas gwreiddiol. Wedi'u hysbrydoli gan harddwch gwyllt Canolbarth Cymru, mae eu sain yn graff, yn delynegol, ac yn feiddgar o rythmig. Gyda chysylltiad cerddorol dwfn a chyffyrddiad cywrain, mae'r pedwarawd yn eich gwahodd i fyd lle mae emosiwn a darnau byrfyfyr yn llifo fel un.
Iaith y perfformiad: Saesneg efo ychydig o Gymraeg
Canllawiau Cynnwys: Mae'n well i gynulleidfa gael profiad gwrando tawel, felly awgrymir na ddylai plant ifanc ddod os ydynt am gael anhawster gydag eistedd yn dawel. Hapus i hyn fod yn ddibynnol ar ddewis yr oedolyn sy'n dod. Does dim thema oedolion nac iaith ddrwg yn cael ei ddefnyddio!
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.