Event Info
Canllaw Oedran: 0 - 3 oed
Rhediad: 35 munud + 10 munud o chwarae
Cynhyrchiad Theatr Little Angel
Ymunwch â Persephone a'i ffrindiau wrth iddynt eich tywys chi a'ch babanod trwy'r newidiadau ym myd natur, gan gasglu pethau ar y ffordd .....
Clywch drydar llawen robin goch wrth i'r dyddiau oeri. A fedrwch ddal pluen eira? Hopiwch gyda chwningen trwy ddolydd blodeuog a theimlwch sblash cawod Ebrill ar eich wyneb. Cewch hedfan gyda glöyn byw yn haul yr haf - a fedrwch ddal pelydryn haul? Gwyliwch y dail yn newid wrth i ddraenog snwffio heibio, a gwelwch a fedrwch ddal y gwynt.
Mae Persephone yn archwiliad synhwyraidd ysgafn o'r tymhorau, sy'n berffaith ar gyfer babanod a phlant bach.
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.