Ewch at gynnwys
Event Image
Sad 22 Tach
·
Theatr

Event Info

Canllaw Oedran: 14+ oed

Rhediad: 90 munud - dim toriad

Mae un o actorion enwocaf Cymru, enillydd Gwobr Emmy Matthew Rhys, yn dychwelyd i lwyfan Cymru am y tro cyntaf ers 22 mlynedd yn y ddrama un-dynglodwiw hon am y seren ryngwladol Richard Burton. Wedi’i chyfarwyddo gan enillydd Gwobr Tony Bartlett Sher ac wedi’i hysgrifennu gan Mark Jenkins, mae Playing Burton yn cynnig cipolwg treiddgar ar fywyd yr actor, o’i ddechreuadau tlawd yn Ne Cymru i’w esgyniad fel un o berfformwyr mwyaf ei genhedlaeth. Gyda hiwmor, didwylledd a gonestrwydd, mae’r ddrama’n archwilio perthynas dymhestlog Burton ag Elizabeth Taylor, ei frwydr gyhoeddus yn erbyn alcoholiaeth, a’r ymdrech i gydbwyso enwogrwydd, uchelgais a hunaniaeth.

Digwyddiad codi arian i gefnogi tymor cyntaf Welsh National Theatre.

Iaith y perfformiad: Saesneg

Canllawiau Cynnwys: Rhegu / Iaith sarhaus a chyfeiriadau at alcoholiaeth drwy'r perfformiad

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Sadwrn 22 Tachwedd, 2025
19:30