Event Info
Canllaw Oedran: 4 - 10 oed
Rhediad: 60 munud - dim toriad
Pâl bach yw Percy sy’n or-hoff o’i dwll. Mae Map a Pap am iddo fentro allan a fflapio’i ei adenydd, ond mae gan Percy syniadau eraill. Yr hyn nad yw’n ei sylweddoli, fodd bynnag, yw bod ei haid gyfan ar fin mudo tua'r de am y gaeaf. Os nad yw’n dysgu hedfan, bydd yn cael ei adael ar ôl ac - yn fwy na hynny - bydd ei fywyd mewn perygl marwol!
Daw llygoden faes ddi-ofn o’r enw Shrimp heibio, ac mae ei hunan-hyder amlwg yn gwneud i Percy deimlo'n fwy dewr. Gyda’i gilydd, mae’r ffrindiau annhebyg yn cychwyn ar antur beryglus sy’n gofyn am bob owns o ddewrder sydd ganddynt. Sut bydd Percy yn ffeindio’i ffordd yn ôl adref? A fydd yn gweld ei Fap a Phap byth eto?
Sioe galonogol i blant 4-11 oed am gyfeillgarwch, goresgyn hunan-amheuaeth ac ymddiried yn eich greddf eich hun. Gyda cherddoriaeth a chaneuon gwreiddiol gan Harriette Ashcroft (Mrs H a’r Singalong Band), pypedwaith cyfareddol a stori hyfryd, mae Puffling Percy yn siŵr o’ch ysgwyd, eich difyrru a’ch codi i fyny, i fyny ac i ffwrdd!
Mae’r holl berfformiadau yn rhai ymlaciol.
Dolen raglun: https://www.youtube.com/watch?v=tdGDEcsU1ek
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.