Event Info
Cyfyngiad Oedran: 12+ oed YN UNIG
Rhediad: 50 munud/toriad 20 munud/50 munud
Rhai o ganeuon mwyaf poblogaidd ein bywydau ffilm-gerddorol.
The Wizard of Oz i Wicked, West Side Story i La La Land - a llawer llawer mwy.
Mae'r sioe gerdd Hollywood yn teimlo fel ei bod gyda ni erioed. Gan ddechrau gyda'r Jazz Singer ym 1927, bron i 100 mlynedd yn ddiweddarach mae cynulleidfaoedd yn dal i heidio i'r swyddfa docynnau i wylio'r sgrîn fawr yn dod yn fyw gyda chanu, dawnsio, comedi a rhamant. Mae cariad Liza Pulman a Joe Stilgoe tuag at ffilm a’u gwybodaeth drylwyr yn y maes, yn cael ei arddangos yn lliwgar yma wrth iddynt ddod â rhai o'r caneuon ffilm-gerddorol gwych hyn yn fyw ar y llwyfan. Dim sgrîn fawr, dim ond talentau aruthrol, harmonïau gwych a llawer o gerddoriaeth a chwerthin. Felly, dewch â'ch popgorn wrth iddynt ddod â hudoliaeth y ffilmiau cerddorol i chi.
Joe Stilgoe a Liza Pulman yw brenhiniaeth y byd adloniant… LondonTheatre1 ****
Ooooh mae nhw MOR dda… Dawn French
…cyfuniad slic… llawn harmonïau moethus …Theatre Weekly *****
Iaith y perfformiad: Saesneg
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.