Event Info
Tymor 3: Dechrau 28.04.2025 tan 30.06.2025
Faint o wythnosau: 8 wythnos ( dim gwers yn ystod hanner tymor )
Pryd: Dydd Llun 7:05 - 8:05yh
Oedran: 16+
Lleoliad: Ystafell Ymarfer 2
Tiwtor: Miss Sarah
** Gostyngiad ar gael i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth - cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau **
Camwch i mewn i’r rhythm a datblygwch eich angerdd tuag at ddawns yn ein dosbarthiadau Tap i Oedolion o dan arweiniad y tiwtor hynod dalentog Sarah Cooke. Os oes gennych brofiad o ddawnsio tap neu’n cymryd eich camau cyntaf oll i fyd dawns, pwrpas ein dosbarthiadau yw i ysbrydoli aphlesio.
Darganfyddwch y llawenydd o greu cerddoriaeth â'ch traed wrth i chi ddysgu'r grefft o ddawnsio tap. O dan arweiniad arbenigol Sarah, byddwch yn meistroli hanfodion rhythm, cydsymud ac arddull. Mae ein dosbarthiadau yn ffordd wych o gadw'n heini, cwrdd â phobl newydd, a mynegi'ch hun trwy hud dawns. Beth bynnag eich oedran neu lefel o brofiad, mae ein dosbarthiadau Tap i Oedolion yn cynnig amgylchedd croesawgar a chynhwysol i bawb. Ymunwch â ni ar daith hwyliog a phleserus i fyd dawns pob Nos Lun 7:00-8:00yh.
Rhyddhewch eich dawnsiwr mewnol, gadewch i'r gerddoriaeth eich symud, a thapiwch eich ffordd i fod yn iachach ac yn hapusach. Cofrestrwch heddiw a dechreuwch dapio gyda ni yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth!