Ewch at gynnwys
Event Image
Llun 6 Ion - Sad 12 Ebr
·
Cyrsiau Wythnosol

Event Info

Tymor 2: Dechrau 06.01.2025 tan 12.04.2025 Faint o wythnosau: 13 wythnos ( dim gwers yn ystod hanner tymor 24.02.2025 & 01.03.2025 ) Pryd: Dydd Llun 4:00 - 5:00yp + Dydd Sadwrn 12:45 - 1:45yp Oed: 12-18Lleoliad: Ystafell Ymarfer 1 & Stiwdio Ddawns 3+4 Tiwtor: Miss Sarah** Gostyngiad ar gael i fyfyrwyr Theatr Ieuenctid Hŷn ac Ifanc - cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau **Yn y dosbarth calonnog ac hwyliog hwn, gallwch ddisgwyl gweithio ar gymysgedd o alawon sioe, y cyfan wedi eu cynllunio i gael eich traed yn symud a’ch calon yn pwmpio. Bydd Miss Sarah yn eich arwain trwy gyfres o ddawnsiau o wahanol sioeau cerdd poblogaidd.Byddwch yn datblygu technegau i’ch helpu i adrodd stori trwy ddawns. Bydd y dosbarthiadau dawns hyn yn eich tywys trwy dechnegau steiliau cerddorol eiconig a ysbrydolwyd gan enwogion megis Bob Fosse, Gene Kelly a Jerome Robbins. Nid oes rhaid i chi fod y dawnsiwr gorau, ‘rydym jyst yn edrych am barodrwydd i ddysgu, egni a brwdfrydedd! ‘Does dim angen profiad! Cynhelir y dosbarth hwn dwywaith yr wythnos, 4pm-5pm ar Ddydd Llun yn Ystafell Ymarfer 1 a 12:45pm-1:45pm ar Ddydd Sadwrn yn Stiwdio Ddawns 3 a 4.
Event Image

Dyddiadiau

Archebwch nawr
Dydd Sadwrn 12 Ebrill, 2025
11:45