Ewch at gynnwys
Event Image
Iau 10 Gor
·
Cyrsiau Wythnosol

Event Info

Tymor 3: 08.05.2025 – 10.07.2025

Faint o wythnosau: 9 wythnos ( dim gwers yn ystod hanner tymor )

Pryd: Dydd Iau 4:00-4:30yp

Oedran: 3-4

Lleoliad: Ystafell Ymarfer 1

Wedi'i gynllunio ar gyfer plant 3 a 4 oed, mae'r dosbarth hwn yn gyfle perffaith i feithrin hyder, hunanfynegiant a sgiliau sylfaenol mewn dawns ac actio. ‘Rydym yn deall pwysigrwydd meithrin y rhinweddau hyn o oedran cynnar, ac mae ein rhaglen wedi’i theilwra i wneud dysgu yn brofiad llawen a deniadol.

Gwyliwch wrth i ddychymyg eich plentyn flodeuo, ei gydsymud corfforol wella, a'i hunanhyder gynyddu. Gydag arweiniad ein hyfforddwr gofalgar, byddant yn archwilio meysydd hudol dawns ac actio tra’n gwneud ffrindiau newydd mewn amgylchedd cefnogol.

Event Image

Dyddiadiau

Archebwch nawr
Dydd Iau 10 Gorffennaf, 2025
16:00