Event Info
Estynnwn wahoddiad i chi ymuno â ni am 18:30 am daith tywys yn Oriel 1 cyn gwrdd yn y Stiwdio Gron Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth i wylio sgwrs fyw ar-lein am 19:00 gyda'r artist Anawana Haloba, sydd ar hyn o bryd yn arddangos gyda ni fel rhan o arddangosfa Artes Mundi 11.
Wedi’i chyflwyno mewn partneriaeth â British Council, cyflwynir Artes Mundi sgwrs ‘Wrth y Bwrdd/At The Table’ y trydydd o gyfres o chwech, am ddim, ar gyfer AM11.
Bydd Anawana Haloba yn sgwrsio gyda Fatima Bintou Rassoul SY, curadur a cyfarwyddwr o RAW Material company, curadur annibynnol ac ymchwilydd Nneoma Angela Okorie ac artist ac ysgrifennwr Kandace Siobhan Walker.
Daw’r gyfres ‘Wrth y Bwrdd/At The Table’ â lleisiau chwech o’r artistiaid AM11 at ei gilydd ochr yn ochr â churaduron, artistiaid, haneswyr, meddylwyr ac awduron rhyngwladol mewn cyfres o drafodaethau bord gron. Bydd y sgyrsiau’n canolbwyntio ar themâu a syniadau sy’n bresennol yng ngwaith yr artist a’r berthynas gyd-gysylltiedig rhwng hanes ac arferion, yn lleol ac yn rhyngwladol.
Dychmygwch ein bod yn eistedd o amgylch bwrdd yn rhannu sgwrs ac yn cyfnewid syniadau, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i glywed gwahanol bryderon a safbwyntiau wrth ddod i adnabod yr artist a’u Gwaith
Bydd y sgwrs yn cael ei dehongli mewn BSL a bydd capsiynau byw ar gael.
Mae Anawana Haloba (g. 1978) yn artist sydd wedi’i lleoli yn Oslo a Livingstone, sydd ar hyn o bryd yn astudio PhD ym Mhrifysgol Bergen. Mae Haloba wedi cymryd rhan mewn arddangosfeydd unigol a grŵp gan gynnwys yn Canolfan Pompidou, Amgueddfa Genedlaethol y Celfyddydau Affricanaidd (Smithsonian),
la Biennale di Venezia, 2009, ac 08fed, 11eg a 14eg rhifyn Biennial Sharjah. Mae hi’n athro cyswllt yn Academi Genedlaethol y Celfyddydau Oslo ac yn gynghorydd gwadd yn Rijksakademie van beeldende kunsten, Amsterdam ac yn gyd-sylfaenydd Swyddfa Livingstone ar gyfer Celf Gyfoes (LoCA), sef llwyfan ar gyfer archwilio hanesion trefedigaethol a gwleidyddol mewn perthynas ag iaith a chelf gyfoes.Cafodd ei gwaith ei gynnwys yn Biennale Berlin (2025) ac mae ganddi arddangosfa unigol fawr yn yr Amgueddfa Genedlaethol, Oslo, ar y gweill.
Mae RAW Material Company yn ganolfan fywiog ar gyfer celf, gwybodaeth a chymdeithas wedi'i lleoli yn Dakar, Senegal. Wedi'i sefydlu gan Koyo Kouoh yn 2008, mae wedi tyfu i fod yn llwyfan arweiniol ar gyfer myfyrio beirniadol ar ymarfer artistig a'i rôl wrth lunio cymdeithas. Gyda dull amlddisgyblaethol a thraws ddisgyblaethol, mae RAW yn ymgysylltu a phrosiectau curadurol, preswyliadau, addysg, a chydweithrediadau rhyngwladol. Mae ei waith yn cael ei gynnal gan dîm ymroddedig, gan gynnwys Fatima Bintou Rassoul SY - Curadur a Chyfarwyddwr Rhaglenni RAW Material Company - ac mae'n parhau i feithrin twf artistig a deallusol ledled Affrica a thu hwnt.
Mae Nneoma Angela Okorie yn guradur ac ymchwilydd annibynnol sy'n ymwneud â ffurfiau teg o gynhyrchu diwylliannol, ymchwil archifol, cysylltiadau gofodol, a strategaethau gofod cyhoeddus. Gan weithio'n bennaf gyda thestun, sain a gwrthrychau, mae ei hymarfer ymchwil yn tueddu i ffurfio a syniadau sy'n newid gyda phob cyfarfod; sut maen nhw'n siapio trwy ymgysylltu, defnydd ac ailadrodd. Mae hi hefyd yn aelod sefydlu o INCHIKOTA, labordy arbrofol a ddatblygwyd ar gyfer cydweithrediadau traws disgyblaethol trwy ymchwil ofodol, cyhoeddiadau, addysgeg a chyfarfodydd.
Mae Kandace Siobhan Walker yn awdur ac artist o dreftadaeth Jamaica-Canada, Saltwater Geechee a Chymreig. Mae'n awdur o ddau lyfr o farddoniaeth Kaleido (Bad Betty Press, 2022) a Cowboy (CHEERIO, 2023). Ymddangosodd ei gosodiad Dreamerism (2024) yn arddangosfa grŵp teithiol cenedlaethol Jerwood Arts, Survey III. Mae hi'n byw yn Llundain.