Event Info
Byddwch ynbarod efo’ch secwinau a’ch siwmperi Nadolig! I’ch cael chi yn hwyliau’r Nadolig, dewch i gyd-ganu am y seithfed flwyddyn yn olynol yng nghwmni Elinor Powell a Sgarmes yn y digwyddiad elusennol arobryn hynod boblogaidd hwn lle mae pob ceiniog a godir yn mynd i Gyfeillion Bronglais League of Friends (CBLF).
Fe’ch gwahoddir chi i gyd i ymuno â Sgarmes a’u gwesteion arbennig, gan gynnwys Meibion Y Mynydd, Sgarmangels Elinor, ac aelodau Ysgol Ddawns y Ganolfan i ganu eich holl hoff ganeuon Nadoligaidd nerth eich pennau!
Canllaw Oedran: Addas i bawb
Rhediad: I'w ddilyn
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.