Event Info
Oliver Laxe, Sbaen/Ffrainc 2026, 114 munud, is-deitlau
Ffilm feistrolgar a dwys a enwebwyd ar gyfer gwobr Oscar sy’n dilyn tad a'i fab sy'n cyrraedd parti dawns yn ddwfn ym mynyddoedd de Moroco. Maent yn chwilio am ei ferch a ddiflannodd fisoedd yn ôl mewn parti cyffelyb, ac yn ceisio'n daer i ddod o hyd i wybodaeth yn y lle anghyfarwydd hwn. Wrth i obaith bylu, maent yn dilyn grŵp o bartïwyr sydd am fynychu un parti olaf yn yr anialwch: taith a fydd yn eu gwthio i'r eithaf wrth iddynt fentro'n ddyfnach i'r diffeithwch chwilboeth. Ffilm deithio ryfeddol gyda thirwedd sain hypnotig, a wir werthfawrogir ar y sgrîn fawr yn unig. Enillydd Gwobr y Rheithgor yng Ngŵyl Ffilm Cannes.