Ewch at gynnwys
Event Image
Maw 10 Maw
·
Cerddoriaeth

Event Info

Cyfyngiad Oedran: 12+ oed YN UNIG

Rhediad: 45 munud/toriad 20 munud/45 munud

Spiers & Boden

‘Spiers a Boden mwy na thebyg yw’r deuawd perffaith i’ch difyrru ar nos Sadwrn. Boden yw’r dyn sioe 

a Spiers yw’r dewin sy’n chwarae’r melodion; rhyngddynt maent yn creu llawenydd pur ar nos Sadwrn.’

Adolygiad o Ŵyl Werin Bryste 2024 B24/7

Mae Spiers a Boden wedi bod ar flaen y gad ar sîn werin draddodiadol Lloegr ers 25 mlynedd fel deuawd arloesol ac hefyd fel aelodau sefydlu’r ffenomenon werin, y band Bellowhead. Ar ôl seibiant o saith mlynedd i ganolbwyntio ar y band, o dan adain Universal Records, dychwelodd Spiers a Boden yn 2021 gyda’r albwm a gafodd dderbyniadbrwd gan y critigyddion, Fallow Ground (Hudson Records) ac maent wedi bod yn perfformio eu brand o ganeuon a cherddoriaeth werin acwstig octan-uchel, di-lol i gynulleidfaoedd orlawn yn y DU byth ers hynny.

Wedi'u disgrifio gan y Guardian fel 'y deuawd offerynnol orau ar y sîn draddodiadol', daeth Spiers a Boden i’r amlwg ar y sîn gerddoriaeth am y tro cyntaf yn 2001, gan ennill llu o Wobrau Gwerin BBC Radio 2 ac yna’n mynd ymlaen i fod yn un o'r deuawdau mwyaf poblogaidd ar sîn werin Lloegr a thu hwnt. Bu Fallow Ground yn nodi eu dychweliad fel deuawd.

Iaith y perfformiad: Saesneg

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Mawrth 10 Mawrth, 2026
19:30