Ewch at gynnwys
Event Image
Sad 15 Maw
·
Teulu

Event Info

Canllaw Oedran : 3 - 7 oed

Rhediad:45 munud - dim toriad

Mae Morgan y mochyn daear yn hoffi cadw pob dim yn dwt ac yn daclus: pob blodyn, pob deilen, a phob anifail fel pin mewn papur. Pan ddaw’r hydref, mae e’n tacluso, yn tacluso ac yn tacluso unwaith eto, nes ei fod yn difetha’r goedwig gyfan, ac yn colli ei gartref!

Yn seiliedig ar y llyfr hynod boblogaidd i blant gan yr awdur a’r darlunydd Emily Gravett, mae Tidy yn chwedl sy’n ein hatgoffa ni mor bwysig yw’r byd o’n cwmpas ni a’r hyn sy’n digwydd pan na fyddwn yn gofalu amdano.

Gyda phypedau hyfryd, cerddoriaeth wreiddiol a thamaid o ddwli ac anrhefn pur, dyma’r stori berffaith i ddiddanu cynulleidfaoedd ifanc.

Polka a Theatr Iolo 

Yn seiliedig ar y llyfr darluniedig i blant gan Emily Gravett 

Crëwyd ar y cyd gan Lee Lyford, Lucy Rivers a Rachael Canning

TIDY © Emily Gravett 2016 - Two Hoots, Macmillan Children's Books. Welsh adaptation, TACLUS © Rily Publications Ltd

Canllaw Cynnwys: Mae'r perfformiad yma yng Nhymraeg.

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dates & Tickets

Dydd Sadwrn 15 Mawrth, 2025
11:00