Event Info
Mae Mari Mathias yn creu cerddoriaeth wedi'i hysgogi gan y tirwedd, traddodiad a'r iaith Gymraeg. Mae hi'n dod ag ymchwydd o egni ar y llwyfan, gyda llais melodig, hardd a chain, gan gyfuno straeon a synau gwerin cyffrous gyda'i band chwe pherson. “Melodïau atmosfferig o'r gorffennol yn hedfan dros weadau, wedi’i gwehyddu gan fand dawnus.”
Mae Angharad Jenkins a Patrick Rimes yn artistiaid gwerin medrus. Fel deuawd, maent yn mynd â’u cariad at gerddoriaeth werin Gymreig i lefelau newydd o agosatrwydd, gyda’u chwarae bywiog a’u harmonïau lleisol. “Prin y mae sain deuawd ffidlau’n swnio mor fywiog a swynol.”
Canllaw Oedran: Croeso i bawb
Rhediad: 40 munud/toriad 20 munud/75 munud
Iaith y perfformiad: Cymraeg a Saesneg
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.