Ewch at gynnwys
Event Image
Iau 3 Ebr
·
Theatr

Event Info

Canllaw Oedran: 14+ oed

Rhediad: 90 munud - dim toriad

China Plate a Staatstheater Mainz yn cyflwyno

Talking About The Fire

Crewyd gan Chris Thorpe a Claire O’Reilly

Ysgrifennwyd a pherfformir gan Chris Thorpe

Datblygwyd gyda Rachel Chavkin

Gallai arfau niwclear ein dinistrio ni i gyd, unrhyw amser - felly pam nad ydym yn siarad amdanynt? 

Weithiau mae'r bygythiad yn llithro i'r golwg - Rwsia yn ymosod ar Wcrain - ond nid yw hynny'n gwneud yr arfau'n fwy peryglus. Maent yn beryglus bob amser. Ac un diwrnod, yn fwriadol neu'n ddamweiniol, byddant yn cael eu defnyddio eto. O’r tîm a greodd y sioe arobryn Status and Confirmation, daw sioe am gytundeb arfau niwclear newydd - un sy’n ceisio rhoi’r pŵer i ddileu arfau niwclear i’r taleithiau, a’r bobl, nad yw’r arfau yn eu meddiant. 

Mae'n sioe ac yn sgwrs. Byddwn yn siarad am ble ‘rydym ni, ble ‘rydym yn byw, a pham ei bod yn bwysig i bobl fel ni siarad am hyn yn y lle cyntaf.

Crewyd gan enillwyr saith-gwaith y Wobr Fringe First, Chris Thorpe a Claire O’Reilly (Abbey Theatre), a datblygwyd gyda Rachel Chavkin, enillydd Gwobr Tony.

★★★★★‘Mae’r cyfan wedi’i roi at ei gilydd yn feistrolgar… mae’r sioe hon yn cynnig profiad sy’n wir yn rhoi’r ‘byw’ i mewn i ‘theatr fyw’ -Time Out

★★★★★“Yr union deimlad o gymuned a chysur yn yr ystafell sy’n gwneud arswyd yr hyn y mae Thorpe yn ei ddisgrifio mor bwerus”-Broadway World

★★★★“Yn addysgiadol ac yn hynod bwerus … Mae Thorpe yn berfformiwr sicr ac hynod atyniadol” - The Stage

★★★★“Mae Chris Thorpe yn gwneud yr hyn y mae'n ei wneud gyda dawn berfformiadol sy'n gwbl wych. Mae’n noson ryfeddol o theatr” - Theatre Reviews Hub

Cefnogir gan Ganolfan Gelfyddydau Battersea, The Albany, Véronique Christory ac yn defnyddio arian cyhoeddus o’r Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Lloegr. 

Tîm Creadigol 

Awdur & Perfformiwr | Chris Thorpe 

Cyfarwyddwr | Claire O’Reilly Dylunio | Eleanor Field 

Rheolwr Cynhyrchu | Rob Athorn 

Datblygwr Sgript | Rachel Chavkin

Iaith y perfformiad: Saesneg

Canllawiau Cynnwys: Iaith gref a themâu rhyfela niwclear.

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dates & Tickets

Dydd Iau 03 Ebrill, 2025
18:45