Event Info
Lleoliad - Theatr y Castell, Vulcan St, Aberystwyth SY23 1JH
Tocynnau am ddim
Gwyrdroad un dyn yw dedwyddwch un arall.
Mae’r gŵr cyfiawn Monsieur Tartuffe wedi ymdreiddio i fywydau’r teulu Orgon, ac eisiau eu harwain at achubiaeth. Mae ei ddyfodiad yn codi cyffro, felly rhaid "cadw’n dawel a chwarae’r gêm" oherwydd yn y diwedd ychydig yn unig gaiff eu dewis.
Dyma addasiad radical o glasur Molière wedi’i pherfformio gan fyfyrwyr Drama a Theatr Prifysgol Aberystwyth.
Sylwer: Mae'r sioe yn cynnwys iaith a delweddau nad ydynt efallai'n addas i blant, gan gynnwys camdriniaeth a thrais. Mae hefyd yn cynnwys profiadau synhwyraidd a allai beri gofid i rai aelodau'r gynulleidfa.