Event Info
Canllaw Oedran: 6+ oed
Rhediad: 60 munud gyda toriad 20 munud
Ymunwch â Theatr Ieuenctid Iau Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth i ddathlu’r teulu mwyaf ecsentrig yn y dref. Mae Wednesday Addams, tywysoges eithaf y tywyllwch, wedi tyfu i fyny ac wedi syrthio mewn cariad gyda dyn ifanc craff, annwyl o deulu parchus - dyn ifanc nad yw ei rhieni erioed wedi cwrdd ag ef. Mae hynny yn drist yn ei hun ond mae Wednesday yn ymddiried yn ei thad ac yn erfyn arno i beidio â dweud wrth ei mam. ‘Nawr, rhaid i Gomez Addams wneud rhywbeth nad yw erioed wedi'i wneud o'r blaen - cadw cyfrinach oddi wrth ei wraig annwyl, Morticia. Bydd popeth yn newid i’r teulu cyfan ar y noson dyngedfennol y maent yn cynnal cinio i gariad “normal” Wednesday a’i rieni.
Iaith y perfformiad: Saesneg
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.