Event Info
Canllaw Oedran: 3 - 12 oed
Rhediad: 60 munud dim toriad
Mae’r Highland Joker yn cyflwyno
CREATION - The Bubble Show
Teithiwch drwy’r stori syfrdanol am darddiad Bubbleland, wrth iddi ddod yn fyw mewn arddangosfa ddisglair o sebon a dŵr. Ymgollwch yn yr anturiaeth ysblennydd hon wrth i feistr y swigod anadlu bywyd i mewn i: olau, dŵr, planhigion, anifeiliaid, sêr, a hanfod y natur ddynol ei hun.
Mae Creation yn wledd i’r synhwyrau, gydag effeithiau tân, pypedau barddol, arddangosfeydd golau, cerddoriaeth swynol a champweithiau swigod newydd sbon nas gwelwyd erioed o’r blaen. Camwch i fyd newydd lle mae hud yn pefrio, lliwiau'n dawnsio, a dychymyg yn ddiderfyn.
Peidiwch â methu'r profiad teuluol mesmereiddiol hwn a fydd yn sicr yn eich swyno. Archebwch eich tocynnau heddiw ac ymwelwch â deyrnas hudolus lle mae breuddwydion yn dod yn wir - trwy ryfeddod a llawenydd swigod!
Rhai adolygiadau o'n cynhyrchiad gwreiddiol o’r sioe:
★★★★★Deadline News, Caeredin "The Bubble Show: Yn berffaith syml ac yn llawn rhyfeddod"
★★★★The List, Caeredin “Dawn arddangos ddengar gan faestro’r swigod."
★★★★★Adolygiad Theatr Seland Newydd "Mae Mr Bubbles yn cyflawni rhyfeddodau gyda bwcedi, powlenni a chafnau o ddŵr a glanedydd"
★★★★Caeredin49 "Bydd hiwmor tyner ac angerdd amlwg y sioe hon yn codi’ch calon"
Gwobr Act Deuluol Orau, Face TV Seland Newydd 2016
Gwobr Dewis y Gynulleidfa, Gŵyl Ymylol Nelson 2018
Prif Wobr Diddanwr Plant, clwb Artistiaid Amrywiaeth Seland Newydd 2019
Enwebwyd am Wobr Caravanserai, Gŵyl Ymylol Brighton 2023
Fel y gwelir yn y Guinness World Record Book 2025
Gwefan
www.facebook.com/highlandjoker
@highlandjoker
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.