Ewch at gynnwys
Event Image
Gwe 27 Maw
·
Cerddoriaeth

Event Info

Cyfyngiad Oedran: 12+ oed YN UNIG

Rhediad: 50 munud/toriad 20 munud/50 munud

YR UNIG SIOE DWRIO YN Y DU SY'N YMRWYMEDIG I DALU TEYRNGED I UN O’R MAWRION - Y MAESTRO BARRY WHITE!

Yn syth o'r UDA, dyma sioe a gafodd glod gan y critigyddion yn nodweddu’r canwr anhygoel William Hicks, a adnabyddir hefyd fel "y dyn mawr gyda'r llais mawr".

100 miliwn o recordiau wedi'u gwerthu, 20 sengl aur a 10 sengl platinwm - mae'r byd yn caru Barry White ac ‘roedd Barry White yn caru’r byd.

You’re the First, the Last, My Everything; Can’t Get Enough of Your Love, Babe; You See the Trouble with Me; Never, Never Gonna Give You Up; Just the Way You Are; What Am I Gonna Do With You ac, wrth gwrs, Let the Music Play ... ‘dydych chi byth yn fwy nag un gân i ffwrdd o gân arall sydd wedi gwerthu miliwn!

Yn hanu o Atlanta, Georgia, mae presenoldeb llwyfan hudolus William yn ail-greu’n ddiymdrech arddull nodedig a llais bas-bariton llyfn, sidanaidd yr artist a enillodd dair Gwobr Grammy.

Gyda’i fand byw Soul Unlimited yn ymuno ag ef ar y llwyfan a gyda chefnogaeth y Motown Supreme Dreamgirls gwych, mae’r sioe hon yn talu sylw anhygoel i fanylion gyda William “yn dod mor agos at y dyn ei hun ag sy’n bosibl ...”

“Mae llais a dawn William yn rhyfeddol ac mae’r sioe hon yn syml yn syfrdanol” Eddie Holland (Cyfansoddwr Caneuon Motown, Holland-Dozier-Holland)

Os ydych wrth eich bodd gyda cherddoriaeth Motown - archebwch eich seddi ‘nawr!

Ymhyfrydwch yn y miwsig!

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Gwener 27 Mawrth, 2026
20:00