Event Info
Cyfyngiad Oedran: 14+ oed YN UNIG
Rhediad: 210 munud
8yh: perfformiwr cymorth 30 munud
8.30 - 9yh: toriad 30 munud i newid llwyfan
9 - 10.50yh: Mary Coughlan 45 munud / toriad 20 munud / 45 munud
Mary Coughlan + Gwestai Arbennig: I'w gadarnhau
“Trysor Cenedlaethol Gwyddelig gyda llais fel mêl” Cylchgrawn MOJO
“Mae Mary yn gyswllt byw rhwng Billie Holiday ac Amy Winehouse” Cylchgrawn Uncut
Disgrifir Mary Coughlan yn aml fel y gantores orau i ddod o Iwerddon erioed, gan sefyll ochr yn ochr â rhai o gantorion jas mwyaf eiconig y byd. Mae hi'n unigryw wrth gyfunonodau cryg, wedi eu pylu gan wisgi a mwg, gyda fffraethineb laconig Billie Holiday a Peggy Lee. Mae hi’n dilyn llinell cantorion dyfnion, dwys y felan yn ôl i Bessie Smith gyda herfeiddiwch ac anobaith sardonig, chwerw-felys Edith Piaf. Ac eto mae Mary Coughlan yn cyflwyno'r cyfan mewn araflais Gwyddelig hyfryd, heb ymddiheuriad: sgepticol, edifar, galarus a thyner - ac angerddol dros gariad.
Mae Mary Coughlan yn un o'n cantorion gorau oherwydd dros 40 mlynedd mae hi wedi creu'r gerddoriaeth fwyaf aeddfed, digyfaddawd, hollol bersonol ac eto'n hollol gyffredinol, ar ddwy ochr yr Atlantig, am yr hyn sy'n digwydd rhwng dynion a menywod.
Cyflwyniad gan Gyngherddau AGMP.
Iaith y perfformiad: Saesneg
Canllawiau Cynnwys: Rhegi
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.