Event Info
Michel Haneke, Ffrainc/Awstria 2001, 125 munud, is-deitlau
Mae ffilm glodwiw Michael Haneke, y gyntaf mewn cyfres a ail-ryddheir yr haf hwn, yn astudiaeth gyfareddol o rywioldeb benywaidd a deinameg rheoli. Mae Isabelle Huppert yn cyflwyno perfformiad iasoer, ond tawel ferwedig, fel athrawes piano ganol-oed rwystredig mewn conservatoire yn Fienna sydd, ar ôl cwrdd â myfyriwr ifanc, yn ffeindio’i byd, sydd wedi’i gydbwyso'n ofalus, yn cael ei droi wyneb i waered pan mae ei deimladau ef tuag ati yn datblygu'n gariad ffôl dinistriol. Ffilm arloesol a enillodd y Grand Prix, yn ogystal â gwobrau actio dwbl, yn Cannes.