Ewch at gynnwys
Event Image
Maw 25 Tach - Llun 1 Rhag
·
Sinema

Event Info

195 munud i’w gadarnhau 2 egwyl

Yn serennu Fumi Kaneko a William Bracewell, mae'r bale hudolus hwn gan Goreograffydd Sefydlol y Bale Brenhinol, Frederick Ashton, yn brofiad theatraidd i'r teulu cyfan y Nadolig hwn. Dewch i gael eich cludo i fyd etheraidd lle mae ychydig o lwch tylwyth teg yn gwireddu breuddwydion. Wedi'i ffilmio'n fyw yn 2024.

Yn sownd gartref ac yn gorfod llafurio i blesio ei llys-chwiorydd a ddifethwyd yn llwyr, mae bywyd Cinderella yn ddiflas ac yn undonog. Mae popeth yn newid pan mae’n cynnig help i fenyw ddirgel ... Gydag ychydig bach o hud, mae'n cael ei chludo i fyd newydd etheraidd - byd lle mae tylwyth teg yn dod â rhoddion y tymhorau, lle mae pwmpenni'n troi'n gerbydau, a lle mae gwir gariad yn aros amdani.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Mawrth 25 Tachwedd, 2025
19:15
Dydd Llun 01 Rhagfyr, 2025
13:00