Event Info
Canllaw Oedran: Addas i bawb ( Dim plant o dan 2 oed )
Rhediad: 65 munud
Mae Ray Bubbles, y Swigenydd Rhyngwladol sydd wedi’i gynnwys yn Llyfr Recordiau Guinness, yn benderfynol o feistroli’r sgil o wneud swigod a chreu'r swigen sgwâr eithaf!
Mae'r sioe hon yn addo corwynt o gyffro a syrpreisys wrth i Ray ddefnyddio amrywiol nwyon gwahanol i greu cerfluniau swigod trawiadol ac effeithiau hudolus.
Paratowch i gael eich syfrdanu wrth i Ray greu swigen folcano, carwsél swigod sebon, ysbryd swigod, a hyd yn oed corwynt y tu mewn i swigen!
Ysbrydolwyd y sioe gan waith Ray gydag ysgolion SEND, grwpiau niwroamrywiol i oedolion, a chanolfannau gwyddoniaeth ledled Ewrop.
Mae'r perfformiad yn addas ar gyfer plant ac oedolion gydag anghenion ychwanegol.
Ymunwch â Ray i weld a all e’ greu'r swigen sgwâr eithaf!
Iaith y perfformiad: Saesneg gyda ychydig o Gymraeg
Canllawiau Cynnwys: Ychydig bach o fwg yn ystod y sioe
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.