Event Info
Tymor 3: 01.05.2025 – 10.07.2025 (yn gan gynnwys ymarfer ychwanegol ar 25.04.2025)
Faint o wythnosau: 11 wythnos ( dim gwers yn ystod hanner tymor )
Pryd: Nos Iau 5:30-7:30yh
Oedran: 11-14
Lleoliad: Ystafell Ymarfer 1
Dewch i ddatgloi byd perfformio a thanio’ch creadigrwydd gyda’n Theatr Ieuenctid Iau, sydd wedi’i dylunio’n arbennig ar gyfer disgyblion blynyddoedd ysgol 7-9. Ymunwch â ni am gwrs gwefreiddiol, bob Nos Iau o 5:30-7:30pm, o dan arweiniad ein tiwtoriaid profiadol. Mae Theatr Ieuenctid y Ganolfan wedi bod yn ganolbwynt bywiog a phoblogaidd i dalent ifanc ers blynyddoedd lawer. Mae ein sesiynau wythnosol wedi’u saernïo’n feddylgar i wella eich sgiliau actio a pherfformio, gan greu sylfaen gref ar gyfer thespiaid ifanc. Camwch i'r sbotolau ac archwiliwch y grefft o adrodd straeon, datblygu cymeriad, dawnsio, canu a chreu presenoldeb llwyfan. Os ydych yn egin actor, yn dechnegydd y dyfodol, neu jyst yn awyddus i roi hwb i’ch hunan-hyder, mae ein Theatr Ieuenctid Iau yn croesawu pob lefel o sgiliau.