Event Info
Mahdi Fleifel, y DU/Palesteina/Ffrainc 2024, 105 munud, Is-deitlau
Mae'r ffoaduriaid Palesteinaidd dadleoledig Chatila a Reda yn sownd yng Ngwlad Groeg, yn cynilo i dalu am basbortau ffug i ganiatáu iddynt barhau â'u taith. Ond pan maent yn colli’r arian y buont yn llafurio’n galed i’w ennill, maent yn llunio cynllun eithafol, gan esgus bod yn smyglwyr mewn ymdrech i'w cael allan o'u sefyllfa anobeithiol. Yn sgrinio fel rhan o Wythnos Ffoaduriaid, gyda thrafodaeth yn dilyn ar y themâu sy’n codi yn y ffilm yng nghwmni aelodau adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol y brifysgol.
Yn dechrau ar amser, dim hysbysebion.