Event Info
Cyfyngiad Oedran: 12+ oed YN UNIG
Rhediad: 45 munud/toriad 20 munud/45 munud
Yn ôl am ei ail flwyddyn ar ôl ymddangosiad cyntaf hynod lwyddiannus, mae profiad theatr ska mwyaf blaenllaw'r DU yn dychwelyd yn sgil galw poblogaidd!
Mae profiad theatr Ska gwych y DU yn ysgubo'r genedl. Byddwch yn barod am noson wefreiddiol o gerddoriaeth gyda Too Much Too Young - The Music of 2Tone & Beyond, perfformiad theatr dwy-awr llawn egni sy'n mynd â chynulleidfaoedd ar daith fythgofiadwy trwy'r sain ska a luniodd genedlaethau.
Mae'r daith hyfryd hon yn archwilio genedigaeth ska yn Jamaica ac yn dilyn ei hanes ffrwydrol hyd at ei hadfywiad ym Mhrydain ar ddiwedd y 70au a'r 80au, gan ddathlu'r gerddoriaeth arloesol a'r artistiaid chwedlonol a'i gwnaeth yn ffenomenon fyd-eang.
Yn cael ei disgrifio yn y wasg fel "Y sioe y mae'n rhaid i bob ffan ska ei gweld" ac yn cynnwys band byw pwerus, mae'r cynhyrchiad yn wledd i'r synhwyrau gydag effeithiau fideo digidol syfrdanol, offerynnau dilys, gwisgoedd hyfryd, set fywiog, a chast deinamig sy'n dod ag ysbryd y cyfnod yn fyw.
Paratowch i gael eich cludo’n ôl mewn amser gyda chaneuon poblogaidd gan artistiaid megis Madness, The Specials, The Beat, Bad Manners, The Selecter, The Bodysnatchers, a mwy! Os ydych yn ffan selog neu'n darganfod hudoliaeth ska am y tro cyntaf, bydd y daith hiraethus hon i'r 70au a'r 80au yn eich cael chi ar eich traed yn dawnsio trwy'r nos!
Website: https://www.toomuchtooyoung.co.uk/
Facebook:@2toneandbeyond
Iaith y perfformiad: Saesneg
Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.