Event Info
Mae analog yn llinyn newydd sbon o ddigwyddiadau yng ngŵyl Trawsnewid : Transform.
Rhaglen o sgyrsiau, cyflwyniadau a pherfformiadau manwl, oddi wrth ac ar gyfer meddyliau creadigol
Llwyfan Sinema, Canolfan y Celfyddydau
1:30pm - 2:30pm - A Guy Called Gerald in conversation with Don Leisure
A Guy Called Gerald mewn sgwrs gyda Don Leisure Enw eiconig mewn cerddoriaeth ddawns, mae A Guy Called Gerald yn sefyll allan am arloesedd cyson, rhagoriaeth a gwrthod cyfaddawdu. A Guy Called Gerald oedd y sawl tu ôl i gic gyntaf y sin acid house yn Ewrop gan ryddhau'r record acid house gyntaf yn y DU, sef clasur '88 'Voodoo Ray' a 'Pacific State' ac aeth ymlaen i osod y glasbrint ar gyfer jungle a drum n bass. Mewn sgwrs gyda'r DJ, Cynhyrchydd, artist ac enillydd Gwobr Gerddoriaeth Cymru, Don Leisure.
3pm - 4pm - Panel: Datblygu a Thyfu : Develop and Flourish. Cyflwynwyr Creadigol Cymru yn trafod eu crefft a dyfodol cynhyrchu a chyflwyno digwyddiadau diwylliannol cartref, annibynnol yng Nghymru.
4:30pm - 2080s: gosodiad a pherfformiad byw
+ mwy o ddigwyddiadau i'w cadarnhau
Mynediad gyda thocyn penwythnos neu pas dydd Sadwrn Trawsnewid