Event Info
Natja Brunckhorst, DE 2024, 115 munud, Is-deitlau
Mae tri ffrind agos yn Nwyrain Sosialaidd yr Almaen, ychydig cyn yr ailuno, yn dod o hyd i fyncer yn llawn arian a fydd yn ddiwerth yn fuan. Gyda dim ond dyddiau i weithio allan beth i wneud efo'r arian annisgwyl hwn cyn iddo fod yn werth dim, maent yn hel tenantiaid eu bloc o ffatiau dadfeiliedig at ei gilydd i lunio cynllun cymhleth i gyfnewid yr arian am nwyddau - gan dwyllo'r Gorllewinwyr sy'n dod i mewn a'u cyfalafiaeth - cyn bod amser yn rhedeg allan.