Ewch at gynnwys
Event Image
Gwe 12 Rhag
·
Cerddoriaeth

Event Info

Canllaw Oedran: Addas i bawb

Rhediad: 45 munud/toriad 20 munud/45 munud

Mae’r grŵp theatr gerdd Welsh of the West End yn ôl ym mis Rhagfyr, ar eu taith Nadolig.

Ymunwch â nhw yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth am gyngerdd arbennig, yn cynnwys clasuron y Nadolig a ffefrynnau theatr gerdd.

Daeth y grŵp, sydd wedi denu dros 20 miliwn o wylwyr ar-lein, i sylw cynulleidfaoedd rhyngwladol wrth gyrraedd rownd gynderfynol byw Britain’s Got Talent ar ITV. Ers hynny, maent wedi perfformio mewn lleoliadau eiconig fel y Royal Albert Hall, London Palladium a Chanolfan Mileniwm Cymru, wedi serennu ar lwyfannau Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, ac wedi cydweithio âg Undeb Rygbi Cymru fel yr adloniant ar y cae cyn y gemau Rygbi Rhyngwladol i gynulleidfa o 75,000 o bobl. Mae'r grŵp yn cynnwys perfformwyr o sioeau fel Les Misérables, Phantom of the Opera a Wicked.

Mynnwch docyn i ddathlu’r Nadolig mewn steil!

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Gwener 12 Rhagfyr, 2025
19:30