Ewch at gynnwys
Event Image
Sad 29 Maw
·
Sinema

Event Info

Cyfarwyddwr: Ray Yeung Hong Kong (R.G.A Tsieina), 2024, 93' munud Cantoneg gydag isdeitlau Saesneg

Dechrau ar amser - dim hysbysebion

Mae Angie a Pat wedi rhannu bywyd o gariad a gwytnwch yn Hong Kong ers dros bedwar degawd. Pan mae Pat yn marw’n sydyn, caiff byd Angie ei droi wyneb i waered. Yn wyneb pwysau cynyddol gan deulu estynedig heb gydymdeimlad, rhaid iddi lywio ei galar ac ymladd i ddal ei gafael ar y cartref sy'n llawn atgofion annwyl iddi. Gyda pherfformiadau teimladwy gan Patra Au Ga Man, Maggie Li Lin Lin, a Tai Bo, mae ‘All Shall Be Well’ yn archwiliad tyner, torcalonnus o gariad, colled, a’r cryfder tawel sydd ei angen i hawlio eich lle yn y byd.

Cynhelir y dangosiad hwn ar y cyd gydag Aberration (digwyddiadau celfyddydol a chymunedol LGBTQ+ yn Aberystwyth). Ar ôl y ffilm, bydd cyfle i sgwrsio am y themâu sydd wedi codi. Croeso i bawb.

'Yeung’s film is a beauty in every way, and even finds hope for Angie in the comforting arms of others.' - San Jose Mercury News

'...it’s one of those cinematic pieces that makes you listen carefully and by extension - look closely.' - ScreenAnarchy

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dates & Tickets

Dydd Sadwrn 29 Mawrth, 2025
17:00