Ewch at gynnwys
Event Image
Mer 2 Ebr
·
Sinema

Event Info

Cyfarwyddwr: Hikmet Kerem Özcan Twrci, 2024, 95 munud

Twrceg gydag isdeitlau Saesneg

Dechrau ar amser - dim hysbysebion

Mewn pentref hardd Aegeaidd, mae Hakkı sy’n ganol oed yn brwydro i gadw i fyny â'r diwydiant twristiaeth cynyddol, gan ddibynnu ar werthu cerfluniau a theithiau tywys. Pan mae’n darganfod arteffact hanesyddol gwerthfawr yn ei ardd ac yn ei werthu am ffracsiwn o’i werth, mae awydd Hakkı am gyfoeth yn cael ei danio. Ac yntau ag obsesiwn â dod o hyd i ragor o drysorau, mae'n cloddio'n ddiflino, gan aberthu ei amser, ei deulu a'i bwyll. Wrth i’w obsesiwn ddwysáu, mae Hakkı’n dechrau troedio llwybr peryglus, ac mae ei ysfa am wneud ffortiwn yn bygwth chwalu popeth sy’n annwyl iddo. Mae’r ffilm nodwedd gyntaf hon yn stori afaelgar am drachwant, obsesiwn, a phris uchelgais, gyda pherfformiad cyfareddol gan Bulent Emin Yarar.

Bydd y dangosiad yn cael ei ddilyn gan sesiwn holi-ac-ateb byw gyda chyfarwyddwr y ffilm.

Bywgraffiad y Siaradwr: Yn hanu o Izmir, Twrci, dechreuodd Hikmet Kerem Ozcan ar ei daith sinematig yn adran Sinema-Teledu, Prifysgol Celfyddydau Cain Mimar Sinan. Yno, dan arweiniad ffigurau enwog byd Sinema Twrci, aeth ati i fireinio ei sgiliau a meithrin ei frwdfrydedd dros wneud ffilmiau. Ac yntau wedi’i ysbrydoli gan stori blentyndod o’i bentref, mae ffilm nodwedd gyntaf Ozcan, ‘Hakkı’, yn ymchwilio i’r cydbwysedd cywrain rhwng ffortiwn a chanlyniad. O fewn y cydbwysedd hwnnw, fe aeth y cyfarwyddwr ati i archwilio sut y gall posibiliadau bywyd drawsnewid ffawd yn gyflym, er gwell neu er gwaeth. Wedi'i ysgogi gan awydd i fynd i’r afael â’r thema ddwys hon, creodd Ozcan 'Hakkı' fel archwiliad sinematig o'r cydbwysedd cain rhwng cyfle a pherygl.

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

15: Mae'r ffilm hon wedi cael ei chofrestru "15". Mae hynny'n golygu ei fod yn anaddas i unrhyw un sy'n iau na hynny. Mae'n drosedd caniatáu i unrhyw ei weld o dan yr oedran hwnnw, felly os nad ydych chi'n edrych yn ddigon hen, bydd angen gwireddiad oedran priodol arnoch i fynd i mewn. Diolch yn fawr a mwynhewch y ffilm.

Event Image

Dates & Tickets

Dydd Mercher 02 Ebrill, 2025
18:45