Ewch at gynnwys
Event Image
Sul 30 Maw
·
Sinema

Event Info

Cyfarwyddwr: Charlotte Sawyer DU, 2024, 86 munud Saesneg

Dechrau ar amser - dim hysbysebion

A oes gan bobl hawl i natur? Ar ochr arall y ffin yn Lloegr, mae cymuned nofio gwyllt ym Mryste yn brwydro yn erbyn y llygredd carthion amrwd sy’n dinistrio Afon Avon. Gan gynnwys cerddoriaeth galonogol, ymgyrchu, a straeon am y rheiny sy’n gwrthod gadael i’w hafon farw, mae ‘Rave on For The Avon’ yn wahoddiad i uno, dathlu, a rhannu ein brwydr gyffredin dros ddyfrffyrdd glân a ffyniannus. Ymunwch â ni ar gyfer ein dangosiadau arbennig ac yna sesiwn holi ac ateb fyw gyda’r cyfarwyddwr Charlotte Sawyer wrth i ni gysylltu ar draws ffiniau ac ysbrydoli gweithgarwch gyda’n gilydd.

'Sometimes an indie film like this comes along that just makes you want to cry, laugh, scream and jump headfirst into the open water like a mermaid! - Mel Rodrigues, CEO of Creative Access

Bywgraffiad y Siaradwr: TBD

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dates & Tickets

Dydd Sul 30 Mawrth, 2025
16:00