Ewch at gynnwys
Event Image
Gwe 28 Maw
·
Sinema

Event Info

Cyfarwyddwr: Farah Nabulsi DU/Palestina, 2023, 118 munud, Saesneg, Arabeg gydag isdeitlau Saesneg 

Dechrau ar amser - dim hysbysebion

Mae’r athro o Balesteina, Basem El-Saleh (Saleh Bakri), wedi’i rwygo rhwng ei orffennol fel radical a’i bresennol fel hyrwyddwr dulliau di-drais. Ac yntau’n byw yng nghanol y Lan Orllewinol, mae’n wynebu realiti creulon meddiannaeth wrth i’w fyfyriwr Adam, wedi’i ysgogi gan golled a chynddaredd, geisio dial yn dilyn ymosodiad gan setlwyr. Gyda'r sefyllfa’n dwysáu, mae ymrwymiad Basem i heddwch yn cael ei roi ar brawf wrth iddo ffurfio cwlwm gyda gwirfoddolwr o Brydain, Lisa (Imogen Poots). Stori bwerus, dorcalonnus sy'n gwneud i frwydrau Palesteina deimlo'n hynod real, mae 'The Teacher' yn archwiliad gafaelgar o wrthwynebiad, cariad, a'r frwydr dros gyfiawnder.

 'Gripping and full of tension, The Teacher not only makes for a wonderful cinematic experience, but poses some all-important questions the wider world has seemingly avoided answering for too long.' - Little White Lies 

Bydd y dangosiad ffilm yn cael ei ddilyn gan Holi ac Ateb Zoom gyda'r cyfarwyddwr. 

Bywgraffiad y Siaradwr: 

Mae Farah Nabulsi yn wneuthurwr ffilmiau Palesteinaidd-Prydeinig a gafodd ei henwebu am Wobr yr Academi® ac sydd wedi ennill BAFTA®. Yn 2016, dechreuodd weithio yn y diwydiant ffilm fel awdur a chynhyrchydd ffilmiau ffuglen. Cafodd ei ffilm fer gyntaf, Today They Took My Son, ei chymeradwyo gan y cyfarwyddwr Prydeinig Ken Loach a’i dangos yn y Cenhedloedd Unedig. Perfformiwyd The Present, y ffilm gyntaf a gyfarwyddwyd ganddi, a wnaeth hefyd ei chyd-ysgrifennu a’i chynhyrchu, am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilmiau Byrion Rhyngwladol Clermont-Ferrand yn 2020 gan ennill Gwobr y Gynulleidfa am y Ffilm Orau. Aeth ymlaen i ennill dros 60 o Wobrau Beirniaid a Chynulleidfa mewn Gwyliau Ffilm Rhyngwladol, gwobr BAFTA®, a chafodd ei henwebu am Oscar®. Cafodd The Teacher, sef ffilm nodwedd gyntaf Farah fel cyfarwyddwr, ei Phremiere Byd-eang yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Toronto 2023. Cafodd ei Phremiere MENA yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol y Môr Coch yn Jeddah, Saudi Arabia, lle enillodd wobr yr Actor Gorau a phrif Wobr y Beirniaid. Mae gwraig wydn o Giwba yn llywio cymhlethdodau bywyd yn ystod y cyfnod chwyldroadol, gan gydbwyso gwaith mewn ffatri decstilau, dyletswyddau cartref, bod yn fam, a chymryd rhan mewn criw dawnsio gwerin.

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dates & Tickets

Dydd Gwener 28 Mawrth, 2025
18:15