Ewch at gynnwys
Event Image
Iau 3 Ebr
·
Sinema

Event Info

Cyfarwyddwr: Tamara Kotevska DU/UDA/Macedonia, 2023, 80 munud 

Dechrau ar amser - dim hysbysebion

Arabeg gydag is-deitlau Saesneg 

Yn ei dilyniant teimladwy i ‘Honeyland’, mae’r cyfarwyddwr o Facedonia, Tamara Kotevska, yn mynd â chynulleidfaoedd ar daith afaelgar, o Syria i Fôr Udd. Mae’r ffilm yn dilyn dwy ferch ddewr naw oed sy’n ffoaduriaid – Asil, plentyn amddifad yn Nhwrci heb bapurau swyddogol, ac Amal, pyped enfawr y mae ei phresenoldeb aruthrol yn caniatáu iddi deithio ar draws ffiniau. Wrth i gamau cawraidd Amal ei thywys drwy dirweddau a phentrefi, mae hi'n lledaenu llawenydd, yn cwrdd â chyd-ffoaduriaid, a hyd yn oed yn dod ar draws y Pab. Trwy daith Amal, mae ‘The Walk’ yn archwilio gobaith a gwytnwch anorchfygol plant sy’n ceisio lloches mewn byd cythryblus 

Yn dilyn dangosiad y ffilm bydd sesiwn holi-ac-ateb Zoom gyda chynhyrchydd Cymreig y ffilm, Harri Grace. 

Bywgraffiad y Siaradwr: Mae’r cynhyrchydd gwobrwyedig Harri Grace yn gweithio ym meysydd rhaglenni dogfen a ffuglen, ac yn arbenigo mewn adrodd straeon cymhleth sy’n deillio o rai o’r amgylcheddau mwyaf heriol y mae Grain Media yn gweithio ynddynt. Mae ei waith diweddar yn cynnwys y rhaglen ddogfen nodwedd 'Convergence: Courage,' 'In A Crisis' ar gyfer Netflix, yn ogystal â 'Lost and Found' ac 'Into the Fire.' 

'Shining a light on a story that moves into and out of the news media’s attention, 'The Walk' opts not for speechifying or arguing. It honors, rather, the kernel of life a puppet can embody, built by hand and sprung straight from the heart.’ - The Hollywood Reporter

Anghenion Mynediad: A wnewch chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad a fyddai’n gofyn am seddi addas, neu os oes angen lle priodol i gadair olwyn yn yr awditoriwm.

Event Image

Dates & Tickets

Dydd Iau 03 Ebrill, 2025
16:30