Ewch at gynnwys
Event Image
Iau 26 Maw
·
Sinema

Event Info

Cyfarwyddwr: Eleanor Mortimer, Y Deyrnas Unedig, 2025, 100’, Saesneg

Mae hanner cant o wyddonwyr yn rasio i ddogfennu bywyd y môr dwfn cyn i gloddio ei ddinistrio. Gan gyfuno delweddau swynol â’r realiti na all y creaduriaid bregus hyn oroesi ar yr wyneb, mae’r ffilm yn archwilio tensiynau moesegol darganfod gwyddonol. Wrth i gyfrinachau’r cefnfor ddatblygu, mae’n gofyn cwestiwn syml: pa mor ddwfn yw ein cariad at y byd rydym yn ei rannu?

'In the lyrically gorgeous imagery of “How Deep Is Your Love” is gnawing tension.' - Robert Daniels, Roberebert.com

🏆Enwebai Gwobr Dyfodol Cynaliadwy yng Ngŵyl Ffilm Sydney 2025

Eleni mae Gŵyl Ffilm WOW yn 25 oed, yn dathlu’r gorau oll o sinema Cymru a’r byd. Rhwng 20-28 Mawrth 2026, byddwn yn dod â hudoliaeth ffilm i ‘gartref’ ein gŵyl, Aberystwyth. Byddwn yn dangos amrywiaeth gyfoethog o ffilmiau sy’n amlygu talent leol a straeon byd-eang. Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu 25 mlynedd anhygoel o WOW – a grym sinema i gysylltu ac ysbrydoli.

** Prynwch eich Pas  YMA ‘nawr: Am £80 cewch fynediad i bob ffilm WOW a ddangosir yng Nghanolfan y Celfyddydau **

Mae’r Pas yn cynnwys yr holl ffilmiau a digwyddiadau sy'n digwydd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, ac eithrio dangosiad 'Little Amelie' - fel rhan o Abercon - ar Fawrth 14. Rhaid archebu'r digwyddiadau sy'n digwydd yn Arad Goch ar wahân hefyd.  Wrth archebu, rhowch wybod i'r Swyddfa Docynnau pa sedd sydd orau gennych ac os oes gennych unrhyw anghenion mynediad.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Iau 26 Mawrth, 2026
14:30