Event Info
Cyfarwyddwr: Vinod Kapri, India, 2024, 110', Hindi gyda is-deitlau Saesneg
Uchel yn yr Himalaya, mae Padam a Tulsi wedi treulio oes ar fryniau gwyrddlas lle mae’r mynyddoedd yn rhoi lloches - ac hefyd yn cau’r byd allan. Wrth i’w pentref wagio ac oedran bwyso, maent yn ffaero drwy ofn a threfn, wedi’u poeni gan y posibilrwydd o farw ar eu pennau eu hunain. Yna, ar ôl 30 mlynedd o dawelwch, daw llythyr gan eu mab estronedig, yn addo y bydd yn dychwelyd - gan danio gobaith, a rheswm i barhau i fyw. Mae Pyre yn odl hyfryd a thorcalonnus i ddyfalbarhad, cwmnïaeth, a’r gobaith bregus ond angenrheidiol sy’n ein cadw i fynd.
'It is a haunting, beautiful story that resonates deeply, leaving a lasting impact that lingers long after the screen fades to black.' - Asian Movie Pulse
🏆Gwobr y Gynulleidfa am y Ffilm Orau yng Ngŵyl Ffilm Tallinn Black Nights 2024
Eleni mae Gŵyl Ffilm WOW yn 25 oed, yn dathlu’r gorau oll o sinema Cymru a’r byd. Rhwng 20-28 Mawrth 2026, byddwn yn dod â hudoliaeth ffilm i ‘gartref’ ein gŵyl, Aberystwyth. Byddwn yn dangos amrywiaeth gyfoethog o ffilmiau sy’n amlygu talent leol a straeon byd-eang. Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu 25 mlynedd anhygoel o WOW – a grym sinema i gysylltu ac ysbrydoli.
** Prynwch eich Pas YMA ‘nawr: Am £80 cewch fynediad i bob ffilm WOW a ddangosir yng Nghanolfan y Celfyddydau **
Mae’r Pas yn cynnwys yr holl ffilmiau a digwyddiadau sy'n digwydd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, ac eithrio dangosiad 'Little Amelie' - fel rhan o Abercon - ar Fawrth 14. Rhaid archebu'r digwyddiadau sy'n digwydd yn Arad Goch ar wahân hefyd. Wrth archebu, rhowch wybod i'r Swyddfa Docynnau pa sedd sydd orau gennych ac os oes gennych unrhyw anghenion mynediad.