Ewch at gynnwys
Event Image
Iau 26 Maw
·
Sinema

Event Info

Cyfarwyddwr: Ed Sayers, Y Deyrnas Unedig, 2025, 82', Saesneg, Enawane Nawe, Iseldireg, Ffrangeg, Islandeg, Pwnjabi, Sbaeneg, Sama-Bajaw, Sámi, Thai gyda is-deitlau Saesneg

Sut gall sinema anrhydeddu natur heb adael ôl troed trwm? Yn Super Nature, mae Ed Sayers yn troi at gydweithio - gan anfon camerâu Super 8 o amgylch y byd a siapio’r canlyniadau’n fosaig wedi’i grefftio â llaw o dirweddau a bodau byw. Graenog, agos-atoch ac yn annisgwyl o drochol, mae’r ffilm yn aros ar eiliadau o harddwch a breuder, gan dynnu pobl a’r rhai nad ydynt yn bobl i’r un ffrâm. Drwy gasglu llawer o weithredoedd bach o edrych i mewn i un profiad a rennir, mae’n dod yn deyrnged bersonol ac yn her ysgafn: gweld y byd yn wahanol, a theimlo beth sydd yn y fantol.

Bydd y sgrîniad yn cael ei ddilyn gan sesiwn Holi ac Ateb gyda chyfarwyddwr y ffilm, Ed Sayers.

'The Super 8 format itself lends a tactile, nostalgic feel' - Cineuropa

⭐Enwebai Gwobr Grierson yng Ngŵyl Ffilm BFI 2025

Eleni mae Gŵyl Ffilm WOW yn 25 oed, yn dathlu’r gorau oll o sinema Cymru a’r byd. Rhwng 20-28 Mawrth 2026, byddwn yn dod â hudoliaeth ffilm i ‘gartref’ ein gŵyl, Aberystwyth. Byddwn yn dangos amrywiaeth gyfoethog o ffilmiau sy’n amlygu talent leol a straeon byd-eang. Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu 25 mlynedd anhygoel o WOW – a grym sinema i gysylltu ac ysbrydoli.

** Prynwch eich Pas  YMA ‘nawr: Am £80 cewch fynediad i bob ffilm WOW a ddangosir yng Nghanolfan y Celfyddydau **

Mae’r Pas yn cynnwys yr holl ffilmiau a digwyddiadau sy'n digwydd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, ac eithrio dangosiad 'Little Amelie' - fel rhan o Abercon - ar Fawrth 14. Rhaid archebu'r digwyddiadau sy'n digwydd yn Arad Goch ar wahân hefyd.  Wrth archebu, rhowch wybod i'r Swyddfa Docynnau pa sedd sydd orau gennych ac os oes gennych unrhyw anghenion mynediad.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Iau 26 Mawrth, 2026
17:30