Ewch at gynnwys
Event Image
Iau 12 Chw
·
Sinema

Event Info

GŴYL FFILMIAU WOW YN CYFLWYNO:

The Voice of Hind Rajab (15) + Digwyddiad i godi arian ar gyfer Ruba

Kaouther Ben Hania, Tiwnisia/Ffrainc 2025, 89 munud Saesneg, Arabaidd gydag is-deitlau Saesneg

 Fel rhan o WOW Around Wales, rhaglen deithiol gydol y flwyddyn Gŵyl Ffilm WOW sy'n dod â sinema feiddgar, fentrus i gymunedau ledled Cymru, mae’n bleser gennym gyflwyno The Voice of Hind Rajab: profiad sinematig pwerus a thaer sy'n mynd y tu hwnt i ffurf ffilm ddogfen draddodiadol.

Wedi'i chyfarwyddo gan y gwneuthurwr ffilm Kaouther Ben Hania a enwebwyd ar gyfer Gwobr yr Academi, mae The Voice of Hind Rajab yn tystio i ladd merch chwech oed o Balesteina, Hind Rajab, a oedd wedi'i dal mewn car o dan dân milwrol Israelaidd yn Gaza ar Ionawr 29, 2024. Trwy ddefnyddio recordiadau galwadau brys go iawn ac ail-greuadau manwl yn seiliedig ar dystiolaeth a thrawsgrifiadau uniongyrchol, mae'r ffilm yn ail-greu'r oriau pan ‘roedd Hind dal yn fyw, ar ei phen ei hun, ac yn erfyn am gymorth wrth i weithwyr y Cilgant Coch ymladd i’w chyrraedd.

Mae hon yn ffilm sy'n mynnu nid yn unig empathi, ond sylw: mae’n dystiolaeth i fywydau Palesteinaidd, i wrthsafiad trwy ddweud y gwir, ac i bŵer sinema i wynebu anghyfiawnder ac i roi llais i’r sawl sydd wedi eu distewi.

 Ar y diwrnod, byddwn hefyd yn cynnal digwyddiad codi arian i gefnogi Ruba: https://www.justgiving.com/crowdfunding/helpRubaleaveGaza. Mae croeso i chi gyfrannu ar-lein ymlaen llaw, neu gyfrannu wrth y drws pan fyddwch yn cyrraedd neu wrth i chi adael y sgriniad. Bydd pob cefnogaeth yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr.

Event Image

Dyddiadau a Thocynnau

Dydd Iau 12 Chwefror, 2026
19:45