Mae Ffair Grefftau Gaeaf Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn ôl ac yn addo bod yn uchafbwynt tymor yr ŵyl 2025. Gan arddangos amrywiaeth helaeth o anrhegion unigryw sydd wedi’u gwneud â llaw, mae pob darn wedi’i grefftio’n ofalus gan artistiaid talentog, gan sicrhau ansawdd uchel a sylw at fanylion. Archwiliwch dros 50 o stondinau yn gwerthu darnau wedi’u curadu’n ofalus, yn amrywio o serameg a chrochenwaith i decstilau, gemwaith a gwaith coed.








Un o nodweddion allweddol y ffair yw ei phwyslais ar gefnogi talent leol. Mae llawer o’r artistiaid sy’n arddangos eu gwaith wedi’u lleoli yng Ngheredigion a Chanolbarth Cymru, gan roi cyfle i ymwelwyr ddarganfod a chefnogi cymuned greadigol fywiog yr ardal.
Gyda’i hawyrgylch Nadoligaidd a’i hamrediad o dalent artistig, mae Ffair Grefftau Gaeaf Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn ddigwyddiad na ddylid ei fethu i unrhyw un sy’n chwilio am anrhegion unigryw a meddylgar.
I’r rhai sydd am gymryd seibiant rhag siopa, mae gan y Ganolfan sinema sy’n dangos ffilmiau yn y prynhawniau a min nos a chaffi hyfryd gyda golygfeydd ar draws Bae Ceredigion, sy’n gweini saladau iach, bwyd cartref poeth, a chacennau blasus. Hefyd, gwnewch yn siŵr eich bod yn codi ein llyfryn Hydref 2025 i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr ystod amrywiol o berfformiadau sydd ar gael y tymor hwn.
Mae’r Ffair Grefftau ar agor 10am – 8pm o ddydd Llun tan dydd Sadwrn a 12-5pm ar ddydd Sul a bydd yn rhedeg o’r 14eg o Dachwedd tan yr 22ain o Ragfyr, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld yn fuan!
Bydd yr Artistiaid yn cynnwys:
