Ewch at gynnwys

Rhag 6ed Chwefror 2il

Mae’r prosiect Ffiniau / Boundaries wedi profi i fod yn atgofus ac yn bryfoclyd, gan ganiatáu gwahanol ddehongliadau o’r pwnc gan bob un o’r 13 aelod o’r grŵp hwn o artistiaid gweledol sy’n byw ac yn gweithio yng nghanolbarth Cymru. Buom yn trafod, yn cyfnewid syniadau, yn creu mapiau-meddwl neu restrau, a dod o hyd i’r gerdd yn dwyn y teitl ’Borders’ gan Alberto Rios, y cyfan yn ein galluogi i ddechrau arbrofi gyda’n syniadau ein hunain ynglyn â ffiniau. 
 
Bu 11 aelod o’r grŵp yn cydweithio wrth gynhyrchu’r ffris a gyflwynir yn yr arddangosfa hon a ddechreuodd fywyd fel rhan o fap o Glawdd Offa (y ffin hynafol rhwng Cymru a Lloegr). Bu pedwar o’r artistiaid hefyd yn creu’r baneri sy’n ymddangos yma.