Ewch at gynnwys

Mehefin 27ain – Medi 25ain

Tri ymarfer sy’n cyfuno serameg a sain: Will Cobbing, Abi Haywood a Copper Sounds.
Yn cyflwyno fideo a cherflun serameg mewn gosodiadau amlgyfrwng ymdrochol, mae pob artist yn archwilio sut y gellir actifadu y cyfrwng o glai trwy berfformiad a thechnoleg, wrth drin sain –  fel clai – fel deunydd hyblyg. Mae’r arddangosfa hon sydd wedi’i churadu gan yr Athro Moira Vincentelli a Ffion Rhys yn cyd-fynd â’r Ŵyl Serameg Ryngwladol a gynhelir bob dwy flynedd yng Nghanolfan y Celfyddydau, a gynhelir rhwng 27ain- 29ain Mehefin eleni, gan roi llwyfan i serameg trwy arddangosiadau, adeiladu odynau, darlithoedd, ffilmiau, arddangosfeydd a gweithgareddau ymarferol.