Ewch at gynnwys

CRYNODEB O’R PROSIECT

Prosiect yw Criw Celf ar gyfer artistiaid ifanc brwdfryddig a thalentog rhwng 8 a 18 oed.  Mae’n rhan o gynllun cenedlaethol i feithrin talent ifanc yn y Celfyddydau Gweledol.

Mae’r gweithdai creadigol yn anelu at ehangu gwybodaeth y bobl ifanc am gelf, meistroli technegau newydd, arbrofi, magu hyder a datblygu eu hiaith weledol eu hunain.

Anogir y sawl sy’n cymryd rhan i ddangos y gwaith celf a grëir mewn sesiynau’r Criw Celf i’w hathrawon celf.  O ganlyniad, cynhwysir rhai gweithiau celf mewn portffolios arholiad.

Mae ‘na bosibilrwydd y bydd gwaith a gynhyrchir gan y bobl ifanc yn cael ei arddangos mewn arddangosfa arbennig yng Nghanolfan y Celfyddydau.

Noddir y prosiect yn ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’i gefnogi gan Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

 

MYNEGIAD O DDIDDORDEB

‘Rydym yn gwahodd mynegiadau o ddiddordeb gan Artistiaid Cymunedol y Celfyddydau Gweledol sydd â chefndir cryf yn y celfyddydau cyfranogol. Dylai’r mynegiad gynnwys llythyr eglurhaol, CV, a dolen i wefannau gydag enghreifftiau o’ch gwaith.

Mae Criw Celf Ceredigion yn rhoi cyfle i Artistiaid Cymunedol y Celfyddydau Gweledol i gyflwyno dosbarthiadau meistr i bobl ifanc yn ogystal â meithrin perthynas gyda’n sefydliadau celfyddydol.

‘Rydym yn awyddus i recriwtio artistiaid amrywiol gyda phrofiad ac egni mewn amrediad eang o wahanol ffurfiau’r celfyddydau gweledol, i ddod â phersbectif newydd i’r Criw Celf.

Mae croeso i artistiaid o bob diwylliant a chefndir wneud cais – rhai sefydledig a’r sawl sy’n dod i’r amlwg.

Bydd angen i artistiaid fod yn hyderus wrth gyflwyno gweithdai ‘mewn person’ sy’n addas ar gyfer y ddau grŵp oedran ysgol – Blwyddyn 4, 5 a 6 a Blwyddyn 7-13.

 

GOFYNION

  • Bydd gofyn i artistiaid gyflwyno naill ai gweithdy bore a/neu brynhawn.
  • Bydd angen i un gweithdy fod yn addas ar gyfer oedran Cynradd 8-11 oed a’r ail yn addas ar gyfer oedran Uwchradd 12-18 oed.
  • Bydd angen i artistiaid gael gweledigaeth artistig glir a threfnus.
  • Bydd angen i artistiaid gydweithio’n agos gyda chydlynydd y prosiect er mwyn sicrhau gweledigaethau’r Criw Celf.
  • Anogir ymgeiswyr i gyflwyno gweithdai sy’n cymryd ysbrydoliaeth gan ac yn cydfynd â rhaglen arddangosfeydd y Ganolfan.
  • Bydd angen i artistiaid weithio mewn modd diogel a phroffesiynol er mwyn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol.
  • Bydd angen i artistiaid weithio gydag eraill i ddarparu asesiadau risg yn unol â pholisïau Iechyd a Diogelwch y Ganolfan cyn ymgymryd â gweithgareddau.
  • Bydd angen i artistiaid ddilyn polisïau a gweithdrefnau diogelu Prifysgol Aberystwyth.

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn ymrwymedig i ddatblygu ac hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywioldeb ar draws ei harferion. Ein nod yw gweithio, astudio a darparu diwylliant cynhwysol, sy’n rhydd o wahaniaethu ac sy’n cynnal gwerthoedd parch, urddas a chwrteisi. Mae gan bob person yr hawl i gael ei drin yn unol â’r gwerthoedd hyn.  ‘Rydym yn ymrwymedig i hyrwyddo cydraddoldeb ar sail oedran, anabledd, rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hil, crefydd a chred (gan gynnwys diffyg cred), priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, ac i groesawu croestoriad a chodi ymwybyddiaeth rhwng ac ar draws gwahanol grwpiau.

 

SUT I GYFLWYNO CAIS

Dylid e-bostio mynegiadau o ddiddordeb mewn cynnal gweithdai Celfyddydau Gweledol at chc63@aber.ac.uk erbyn 6pm ar ddydd Gwener 9fed o Fai.

Gosodir ymgeiswyr ar restr fer ac fe’u gwahoddir i gyfweliad gyda’n Rheolwraig a Chydlynydd Criw Celf – dyddiad i’w gadarnhau.

Mae’r cyfle yn agored i bob artist, y rhai sy’n dod i’r amlwg a’r rhai profiadol, sy’n cyfarfod â’r gofynion a restrir uchod.

  • Ffi’r Artist – £300 y dydd
  • Dyddiadau’r gweithdai – Dydd Llun 21ain – Dydd Gwener 25ain Gorffennaf 2025.
  • Dyddiad cau ar gyfer mynegiadau o ddiddordeb – 6pm, Dydd Gwener 9fed o Fai 2025.

 

CYSWLLT

Cyfeiriwch ymholiadau os gwelwch yn dda at Charlie Carter, Cydlynydd Criw Celf: chc63@aber.ac.uk

[arddangosfeydd a raglennir ar gyfer 2025 yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth https://aberystwythartscentre.co.uk/visual-arts/ ]

SWYDDFA DOCYNNAU: 01970 62 32 32

 

Mwy am Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yw un o’r Canolfannau Celfyddydau mwyaf yng Nghymru ac mae’n ganolfan aml-gelfyddyd sy’n cynhyrchu a chyflwyno rhaglen o theatr, ffilm, cerddoriaeth ac arddangosfeydd ochr yn ochr â rhaglen ddysgu creadigol sy’n gwasanaethu campws y brifysgol, cymuned Ceredigion a thu hwnt. Mae ein rhaglen arddangosfeydd yn rhoi llwyfan i arddangos y gorau oll mewn celf gyfoes, gan arddangos gwaith gan artistiaid cyfoes  cenedlaethol a rhyngwladol. ‘Rydym yn cynnig amgylchedd o ansawdd uchel i arddangos gwaith, gydag un o’r gofodau celf gyfoes mwyaf yng Nghymru yn ein Horiel 1 bwrpasol ar gyfer artistiaid sefydledig ac arddangosfeydd ar raddfa fawr; Oriel 2 fel gofod pwrpasol i gefnogi ein cenhedlaeth nesaf o artistiaid newydd sy’n dod i’r amlwg ac oriel y caffi a gofod ffenestr y Piazza ar gyfer gwaith sy’n canolbwyntio ar gymuned.   Mae gennym raglen dreigl o breswyliadau artistiaid gyda’n gofod stiwdio a adeiladwyd yn arbennig, gan roi cyfleoedd i artistiaid ddatblygu eu hymarfer eu hunain mewn amgylchedd diogel a chefnogol.

 

Home – Aber Arts (aberystwythartscentre.co.uk)