Ewch at gynnwys

Gwaith celf cydweithredol ar thema ‘cariad’ a grëwyd ar gyfer GŵylCariad Aber gan yr artistiaid gweledol Nicky Arscott, Charlie Carter, Elin Crowley, Hilary Reed a Lena Tomasik, fel rhan o’r prosiect CELF yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth (Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru).Tra ar ymweliad â Llyfrgell Genedlaethol Cymru ysbrydolwyd yr artistiaid gan weithiau celf yn dathlu tirweddau a natur anhygoel Cymru a chytunwyd mai ‘cariad at dirwedd’ fyddai’r llinyn a fyddai’n uno’r gwaith. Cawsant eu hysbrydoli gan yr artistiaid Teresa Jenellen, Anni Suganami, Seren Morgan Jones, Margaret Jones, Kim Atkinson, Noelle Griffiths, Graham Sutherland, Mary Lloyd Jones, Roger Ceciland Katie Allen, pob un ohonynt â darnau yn y casgliad cenedlaethol.

Gan weithio’n unigol ond gyda gweledigaeth gydlynol, canolbwyntiodd yr artistiaid eu sylw ar y blodau, y planhigion, y cen a’r mwsoglau a geir yn Nyffryn Dyfi, a gydnabyddir yn rhyngwladol am ei fioamrywiaeth anhygoel.  Astudiwyd rhywogaethau megis Rhosmari’r Gors, Gwlithlys, Llafn y bladur, Tegeirian Tresi’r Wyddeles, Carwe Troellog a Chribau San Ffraid, ochr yn ochr â rhywogaethau bygythiol anfrodorol fel Jac y Neidiwr.

Mae’r casgliadau cenedlaethol o gelf gyfoes a gedwir yn Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn perthyn i bawb yng Nghymru. Mae model CELF yn galluogi mynediad democrataidd ehangach trwy rwydwaith gwasgaredig o orielau ledled Cymru. Mae gwefan Celf ar y Cyd yn nodwedd sylfaenol o CELF. Mae’r fenter hon yn darparu mynediad digidol a chorfforol i gasgliadau’r genedl ledled Cymru.

Y naw lleoliad sy’n aelodau o rwydwaith orielau CELF yw:

Aberystwyth Arts Centre, Aberystwyth, Glynn Vivian Arts Centre, Swansea, MOSTYN, Llandudno Newport Museum & Art Gallery, Newport, Oriel Davies, Newtown,

Oriel Myrddin, Carmarthen, Plas Glyn-y-Weddw, Pwlleli, Ruthin Craft Centre, Ruthin STORIEL, Bangor.

 

Image
Image
Image
Image
Image Image
Image Image
Image
Image
Image
Image
Image Image
Image Image