Ar Ysgariad: Portreadau a lleisiau ymwahaniad
Awst 27ain- Hydref 27ain
Mae gan ein diwylliant obsesiwn gyda dod o hyd i gariad rhamantus ac eto mae tua hanner o briodasau yn dod i ben cyn eu hamser, yn aml gyda phobl yn teimlo cywilydd a stigma.
Gwnaethpwyd y gwaith hwn dros gyfnod o ddwy flynedd ac mae’n cynnwys portreadau (o dua 50 o bobl) ynghyd â meddyliau a sylwadau yn y person cyntaf.
Trawsgrifiwyd y tystiolaethau o gyfweliadau a wnaethpwyd ar ddiwrnod pob sesiwn. Mae’r straeon yn ddrych sy’n gallu helpu cywiro’r hyn yr ydym yn meddwl ein bod yn gwybod am ysgariad a’n tynnu i gyfeiriad gwahanol: tuag at dosturi, uniaethu, chwilfrydedd, hunan-fyfyrdod ac empathi.
Mae’r arddangosfa yma yn rhan o Ŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol 2024, THE EYE.