Addoliad Dŵr
Yn cael ei ddefnyddio’n gyffredinol mewn defodau crefyddol ac ysbrydol fel modd o buro, iacháu ac adnewyddu, ‘roedd y weithred o addoli dŵr yn rhan o grefydd baganaidd ac fe’i hymgorfforwyd yng Nghristnogaeth. Mae’r darn cerfluniol gwydr lliw hwn yn dwyn i gof ffenestr eglwys, diferion dŵr, mapiau a ffurfiau afonydd Cymru o’r awyr. Gwnaethpwyd y gwaith hwn fel rhan o’r rhaglen adfer rhywogaethau ac ymgysylltu Natur am Byth! mewn cydweithrediad â ‘Phen Llŷn a’r Sarnau’ a’r Gymdeithas Gadwraeth Forol.