Ewch at gynnwys

Mehefin 9fed – Medi 14eg

Mae eleni yn nodi 80 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. Ledled y wlad, byddwn yn cofio ymladdwyr a chymunedau. Un o agweddau llai adnabyddus y rhyfel yw dadleoli – cafodd dros 60 miliwn o bobl eu dadleoli yn Ewrop yn unig, gan gynnwys llawer i Gymru. Bydd yr arddangosfa hon yn cynnwys gweithiau celf, arteffactau a straeon ymfudo y rhai a ddadleolwyd i Gymru yn ystod hanner cyntaf yr 20fed ganrif, yn ffoaduriaid, carcharorion rhyfel, a faciwîs o rannau eraill o Brydain. Bydd hefyd yn cynnwys darnau gan y rhai sydd wedi cyrraedd Cymru yn fwy diweddar yn sgil gwrthdaro a rhyfel, gan gynnwys teuluoedd o’r Wcráin a Syria.